Dilynwch ni:

Twitter YouTube
Facebook Like us

Cysylltu â ni

Contact us

Newyddion ebost?

Email updates?

Offer:

Anfon
at ffrind

Send to friends

 

Argraffu:

Print

 

Maint y
testun:

Text Size - Small Text Size - Normal Text Size - Large
Wednesday, June 15, 2016

National Grid yn cyhoeddi cynlluniau pellach ar gyfer cysylltiad o dan y ddaear yn y Fenai

  • Llwybrau ar gyfer llinell uwchben yn cael eu diystyru ger Llanddaniel Fab, Gaerwen a Bangor 
  • Cyhoeddi dewisiadau o ran croesi o amgylch y Fenai 
  • Hyd at 5km o gebl i’w osod o dan y ddaear 
  • Rhagor o wybodaeth am dechnoleg croesi 

 Yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd ddiwedd 2015, mae National Grid wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am ei waith o roi’r cysylltiad ar gyfer Wylfa Newydd o dan y ddaear yn y Fenai.   Mae rhai o themâu cryf y cyhoedd wedi cael eu hystyried ac maent wedi helpu i lunio'r cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw. 

  • Mae llwybr uwch ben ger Llanddaniel Fab, Gaerwen a Bangor wedi cael ei ddiystyru.  Roedd adborth gan bobl a chanlyniadau astudiaethau a oedd yn edrych ar ecoleg, cymunedau, treftadaeth ddiwylliannol a’r dirwedd yn awgrymu y gallai dewisiadau eraill ar gyfer y llwybr arwain at lai o effaith.   
  • Hefyd, nid yw National Grid yn chwilio am safleoedd ar gyfer compowndiau pennau selio bellach - lle mae'r ceblau uwch ben ac o dan y ddaear yn cael eu cysylltu - yn ardal chwilio’r de ar Ynys Môn nac yn ardal chwilio'r gogledd yng Ngwynedd.  Mae hefyd wedi lleihau maint gweddill yr ardaloedd chwilio er mwyn cadw ymhellach draw oddi wrth yr arfordir.  
  • Hefyd, mae wedi canfod pedwar dewis posib o ran croesi’r Fenai, sy’n bodloni ei anghenion peirianneg ac sy’n osgoi nodweddion sensitif fel safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol.  

Ar sail y cynigion hyn, byddai’n bosib gosod hyd at 5km o’r llinell newydd o dan y ddaear, gan helpu i warchod ardal arfordirol y Fenai sydd mor werthfawr ac sy’n cael ei gwarchod.  

Dywedodd Gareth Williams, Uwch Reolwr Prosiect, National Grid:  “Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r ardal hon i bobl, fel tirwedd werthfawr a chyrchfan i dwristiaid, felly rydyn ni wedi paratoi diweddariad cyn gynted â phosib. 

“Roedd ein hasesiadau ein hunain ac adborth gan gymunedau ac arbenigwyr yn dangos pa mor bwysig yw’r ardal hon mewn gwirionedd.  Mae hyn wir wedi helpu i ddylanwadu ar ein gwaith yma, ac rydyn ni wedi edrych yn ofalus ar ganfod y ffyrdd gorau o osod y cysylltiad o dan y ddaear.” 

Bydd ystyriaethau technegol nawr yn helpu National Grid i fireinio’i gynigion ymhellach a bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei chyflwyno fel rhan o ymgynghoriad yn nes ymlaen eleni.  

Aeth Gareth Williams yn ei flaen i ddweud:  “Mae croesi'r Fenai yn her gymhleth o safbwynt peirianneg - rydyn ni’n hyderus y gallwn ni wneud hyn, ond mae’n rhaid dal ati i wneud llawer iawn o waith a chynllunio’n ofalus.   

“Mae gennym lawer iawn i’w wneud o hyd, ac rydyn ni’n cynnal astudiaethau.  Bydd y rhain yn ein helpu ni i benderfynu pa dechnoleg i'w defnyddio ac yn union ble rydyn ni’n bwriadu lleoli’r ceblau o dan y ddaear.  Bydd ein hymgynghoriad nesaf yn rhoi’r cyfle i bobl weld sut a ble hoffem roi'r cysylltiad, a sut gallai ein hoffer edrych.  Felly rydyn ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosib gymryd rhan a dweud eu dweud.” 

Mae rhagor o wybodaeth am waith National Grid ger y Fenai, gan gynnwys y dechnoleg y gellid ei defnyddio i groesi a map rhyngweithiol o'r cynigion diweddaraf ar gael yn http://www.cysylltiadgogleddcymru.com/


<< Back

Cofrestru

Cofrestru   >

Cewch gofrestru i gael y newyddion diweddaraf am y prosiect