Friday, October 27, 2017
Datblygu ein cynlluniau ar yr amser iawn er mwyn dat-gloi buddsoddiad Horizon
Gareth Williams, Uwch Reolwr y Prosiect
Ers rhai misoedd, rydym wedi bod yn brysur yn cwblhau ein cynlluniau i gysylltu Wylfa Newydd ag ail linell uwchben a thwnnel o dan afon Menai.
Fel rhan o’r gwaith, rydym wedi bod yn adolygu’r ymateb i’n hymgynghoriad, yn cynnal rhagor o astudiaethau ac yn siarad â pherchnogion tir ar hyd y llwybr arfaethedig. Mae hyn wedi’n helpu i ganfod ffyrdd o leihau effeithiau ein cynlluniau ac i baratoi ein cais i gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Fel y gwyddoch efallai, ein bwriad ni o’r dechrau oedd ymgeisio am ganiatâd ar gyfer y cysylltiad arfaethedig ar ôl i Horizon gyflwyno’u cais nhw am yr atomfa. Bydd hyn yn sicrhau bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn gallu ystyried pam y mae angen ein cysylltiad ni a sut y gellid ei adeiladu.
Mae Horizon wedi dweud yn awr na fyddant yn cyflwyno’u cais i’r Arolygiaeth Gynllunio tan y flwyddyn nesaf ac felly rydym ni wedi penderfynu gohirio ein cais ninnau hefyd.
Nid yw hynny’n golygu bod ein prosiect ar stop; mae’n bwysig bod amseriad ein prosiect ni'n cyfateb i amseriad Horizon fel y gallwn gysylltu Wylfa Newydd ar yr amser cywir. Rydym yn cydweithio’n agos â Horizon i gydlynu ein ceisiadau. Mae hyn yn golygu y bydd ein cynlluniau yn gyfredol ac yn gywir pan fyddwn yn cyflwyno ein cais.
Yn ogystal, rydym yn ffyddiog, os cawn ganiatâd, y bydd y cysylltiad yn barod ar gyfer Horizon pan ddaw’r amser ac y bydd yn helpu i ddat-gloi’r biliynau o bunnau o fuddsoddiad a’r swyddi a ddaw gyda’r atomfa newydd.
Ar ôl i ni gyflwyno ein cais, bydd rhagor o gyfle i ddweud eich dweud ar ein cynlluniau fel rhan o’r broses gynllunio. Cewch gyflwyno’ch ymateb yn syth i’r Arolygiaeth Gynllunio bryd hynny. Os hoffech wybod rhagor, mae llawer o wybodaeth ar eu gwefan, yn cynnwys fideo defnyddiol yn dangos sut mae’r broses yn gweithio a sut y gallwch chi gymryd rhan.
Byddwn yn cysylltu â phawb eto pan fyddwn yn gwybod rhagor ond mae croeso i chi gysylltu â’n tîm os bydd gennych gwestiynau yn y cyfamser.